Geraint Thomas
Mae dyfodol y beiciwr Geraint Thomas wedi ei setlo am y tair blynedd nesa’.
Mae wedi arwyddo cytundeb newydd gyda thîm Sky, sydd dan arweiniad y Cymro Cymraeg Dave Brailsford.
Roedd timau eraill wedi bod yn llygadu’r seiclwr 25 oed o Gaerdydd ac fe gyfaddefodd Geraint Thomas ei fod wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda rhai ohonyn nhw.
Bellach, mae’n dweud ei fod yn falch o allu cadarnhau ei ddyfodol gyda Sky gan ddweud bod y tîm wedi dangos hyder ynddo.
“Dw i’n teimlo fy mod i’n gwella trwy’r amser,” meddai. “Mae’r dyfodol yn ddisglair i Team Sky a seiclo yng ngwledydd Prydain a dw i’n llawn cyffro o feddwl y bydda’ i’n parhau i gael rhan yn hynny.”
Brailsford yn hapus
Roedd Dave Brailsford yr un mor hapus, gan ddweud mai’r nod oedd adeiladu tîm o amgylch talentau fel Geraint Thomas.
Roedd ei berfformiad yn y Tour de France wedi tanlinellu ei fod yn feiciwr o safon byd, meddai.
Am gyfnod, Geraint Thomas oedd yn gwisgo crys gwyn y seiclwr ifanc gorau ac fe fu ganddo ran allweddol mewn sawl un o’r cymalau.