Mike Phillips
Mae Mike Phillips yn ôl yn sgwad Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd ar ôl i Undeb Rygbi Cymru godi ei waharddiad.

Dywedodd yr undeb fod y mewnwr 29 oed wedi ymddiheuro i weddill y tîm a’r rheolwyr.

Cafodd ei wahardd o’r sgwad ar ôl cael tynnu ei lun wedi ei orfodi i’r llawr gan fownsar ar stryd yng nghanol Caerdydd.

Roedd Undeb Rygbi Cymru wedi dweud wrtho am beidio ag ymuno gyda sgwad hyfforddi Cymru yn dilyn beth ddigwyddodd.

“Hoffwn i gymryd y cyfle yma i ymddiheuro i gefnogwyr tîm rygbi Cymru ag unrhyw un arall sydd wedi gweld chwith,” meddai Mike Phillips.

“Rydw i wedi fy siomi fy hun ar adegau,” meddai cyn ychwanegu ei fod yn bwriadu “gofyn am gymorth a chyngor”.

“Mae gen i gywilydd am beth ddigwyddodd ac rydw i’n benderfynol o wneud yn iawn am hyn.”

Ni fydd Lloyd Williams o glwb Gleision Caerdydd, oedd wedi ei alw i mewn yn lle Mike Phillips, yn colli ei le yn y sgwad.

Dywedodd Rheolwr Cymru, Warren Gatland, ei fod wedi “ystyried pob agwedd o’r mater gan gynnwys ymddiheuriad Mike cyn penderfynu ei adfer i’r sgwad”.

“Rhan bwysig o’r penderfyniad oedd iddo ddweud y byddai yn mynd ati i gael cymorth er mwyn datrys rhai o’r problemau â’i ymddygiad.”