Lee Williams - y mwya' profiadol
Mae hyfforddwr tîm rygbi saith bob ochr Cymru, Paul John, wedi enwi carfan ffresh iawn yr olwg ar gyfer cymal cyntaf y ‘Grand Prix’ Ewropeaidd yn Lyon y penwythnos yma.

Ar ôl blasu cryn lwyddiant tuag at ddiwedd  Cyfres Saith Bob Ochr y Byd yn ddiweddar, mae John yn awyddus i adeiladu ar eu llwyddiant.

Fe enillodd Cymru’r plât yn nhwrnamaint Adelaide, a chyrraedd rowndiau cynderfynol y ddau gymal olaf o’r gyfres yn Llundain a Chaeredin, ac mae’r hyfforddwr bellach yn bwriadu datblygu’r garfan ar gyfer y dyfodol

Angen gweithio’n galed’

Mae Paul John yn  gweld y twrnamaint yn Lyon, ynghyd â’r tri chymal arall o’r gystadleuaeth ym Moscow, Barcelona a Bucharest, yn gyfle perffaith i wneud hynny .

“Fe wnaethon ni golli o drwch blewyn i Dde Affrica yn Llundain a Chaeredin, ac mae hynny’n dangos nad ’yn ni gymaint â hynny y tu ôl i oreuon y byd” meddai’r hyfforddwr.

“Os ydyn ni eisiau cadw ein lle yn neg uchaf y byd yna mae’n rhaid i ni ddal ati i weithio’n galed gan fod y timau eraill yn datblygu mor gyflym.”

Carfan ddibrofiad

Lee Williams o’r Scarlets ydy’r enw amlycaf yn y garfan, a’r unig un sydd â phrofiad helaeth o rygbi saith bob ochr ar lefel ryngwladol.

Mae Will Price o Donmawr a Warren Davies o Aberafon hefyd wedi chwarae rhywfaint yng Nghyfres IRB y Byd.

“Mae rygbi saith bob ochr rhyngwladol yn awyrgylch gwych i’r bois fod yn rhan ohono,” meddai John.

“R’yn ni wrth ein bodd bod dau o’n chwaraewyr wedi ennill cytundebau rhanbarthol o ganlyniad, ac r’yn ni’n dymuno’r gorau i Jevon (Groves) a Gareth (Davies) gyda hynny.”

Er nad yw timau hemisffer y de yn cymryd rhan, mae’r gystadleuaeth Ewropeaidd yn cynnwys nifer o wledydd sy’n gystadleuol ar lefel byd megis Lloegr, Portiwgal, Ffrainc, Sbaen a Rwsia.

Carfan Cymru ar gyfer cystaleuaeth Lyon:
Owen Williams (Pontypridd), Calum Thomas (Pontypridd), Rory Watts Jones (Caerdydd), Steve Taylor (Caerdydd), Sam Lewis (Abertawe), Luke Williams (dim clwb), Justin James (Llanelli), Lee Williams (Scarlets), Warren Davies (Tonmawr), Will Price (Aberafon), Will Jones (Caerdydd), Elliot Frewen (Tonmawr)