David Lyons
Mae’r Scarlets wedi cyhoeddi bod eu hwythwr David Lyons yn rhydd i adael y rhanbarth dros yr haf.

Roedd disgwyl cyhoeddiad am ddyfodol cyn chwaraewr rhyngwladol Awstralia yn fuan, gydag adroddiadau ei fod yn awyddus i symud i glwb yn Ffrainc.

Gyda blwyddyn yn weddill ar ei gytundeb, mae’r rhanbarth Cymreig wedi cadarnhau heddiw eu bod yn barod i ryddhau Lyons a chaniatáu iddo siarad â chlybiau eraill.

“Dyw e ddim yn benderfyniad hawdd i adael; rydym wedi cael rhai blynyddoedd gwych yma yng Nghymru a dwi’n sicr wedi teimlo’n rhan o’r Scarlets ac o fywyd gorllewin Cymru” meddai Lyons.

“Dw i wastad wedi bod eisiau chwarae yn Ffrainc. Dw i’n edrych ymlaen at gyfleoedd newydd ac i ddilyn fy uchelgais gyda chlwb Ffrengig.”

Chwaraewr allweddol

Fe ymunodd David Lyons â’r Scarlets o glwb y Waratahs yn Awstralia yng Ngorffennaf 2008.

Mae wedi bod yn rhan allweddol o’r garfan yn y tair blynedd ers hynny gan chwarae 77 o weithiau, ond dim ond 16 gêm allan o 32 posib y chwaraeodd ynddyn nhw dros y tymor diwethaf.

Roedd hynny’n rhannol oherwydd datblygiad y chwaraewyr rheng ôl ifanc Josh Turnbull, Rob McCusker ac yn arbennig yr wythwr Ben Morgan.

Dylanwad ar chwaraewyr ifanc

Roedd prif hyfforddwr y Scarlets, Nigel  Davies yn llawn clod i Lyons wrth i’r cyhoeddiad gael ei wneud.

“Mae David wedi chwarae rhan allweddol fel rhan o’r garfan ac yn gadael gan wybod ei fod wedi cael dylanwad mawr ar y garfan ifanc o chwaraewyr rydym yn datblygu” meddai Davies.

“Yn ystod ei gyfnod ar Barc y Scarlets mae wedi dangos ymroddiad aruthrol i’r rhanbarth gan gefnogi’r holl chwaraewyr. Rydym yn diolch yn fawr iddo am ei gyfraniad gan ddymuno pob lwc iddo a’i deulu yn y dyfodol.“