Logo un o'r clybiau newydd
Mae yna gynlluniau ar y gweill i sefydlu cynghrair rygbi tri ar ddeg yng ngogledd Cymru yn dilyn llwyddiant y Crusaders yn Wrecsam.

Mae pedwar tîm newydd wedi codi yn yr ardal a’r bwriad yw creu cynghrair gyda nhw – y Montgomeryshire Marauders, Conwy Celts, Prestatyn Panthers a Dee Valley Dragons.

“Mae’r ffaith bod y Crusaders wedi symud i Wrecsam wedi rhoi hwb aruthrol i’r ardal,” meddai Llywydd Rygbi Cynghrair Cymru, Mike Nicholas.

“O’n safbwynt ninnau roedd yn ddigwyddiad enfawr a chyfle gwych i osod gwreiddiau.  Mae’n awr yn fater o gynnal y diddordeb.

Cynghair bach

“R’yn ni’n edrych ar gynghrair bychan yng ngogledd Cymru yn y dyfodol i roi blas i bobol o brofiad rygbi tri ar ddeg a datblygu diddordeb.

“Mae rhan fwyaf o’r chwaraewyr lleol yn Gymry a oedd eisoes yn gefnogwyr brwd o rygbi ac roedd presenoldeb y Crusaders wedi rhoi’r cyfle a’u hannog i ddod yn chwaraewyr brwd hefyd.

“Mae rygbi xiii wedi cyrraedd ardaloedd gwledig Cymru oherwydd y Crusaders i raddau ac mae diddordeb yn y gêm yn gwasgaru i’r de gydag un o’r timau newydd yng nghanolbarth Cymru.”

‘Diddordeb anghredadwy’

Mae’r gwaith datblygu y mae’r Crusaders yn ei wneud yn yr ardal yn talu ar ei ganfed, yn ôl Rheolwr Datblygu Rygbi XIII Cymru, Mark Jones.

“Mae’r diddordeb mewn rygbi tri ar ddeg yng ngogledd Cymru wedi bod yn anghredadwy ers i’r Crusaders symud i Wrecsam ac mae Rygbi XIII Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Crusaders i ddatblygu’r gêm gymunedol,” meddai.

Mae’r gwaith yn cynnwys sesiynau am ddim i ysgolion a phencampwriaethau i ysgolion a phobol ifanc. Y gobaith yn y pen draw, meddai Mark Jones, yw cael cystadlaethau gwirioneddol genedlaethol.