Lyn Jones (llun o wefan Cymru Llundain)
Mae cyn brif hyfforddwr y Gweilch, Lyn Jones, wedi ei benodi yn hyfforddwr newydd Cymry Llundain.

Mae’r Cymro yn olynu cyn bachwr Lloegr, Phil Greening, a adawodd y clwb ddiwedd mis Mai.

Roedd Lyn Jones yn hyfforddwr ar Gastell-nedd am wyth mlynedd cyn mynd ymlaen i hyfforddi’r Gweilch pan sefydlwyd y rhanbarth yn 2003.

Gadawodd yn 2008 cyn ymuno â thîm hyfforddi’r Dreigiau.

Trodd ei gefn ar y byd rygbi proffesiynol yn gyfan gwbl yn ystod haf 2009 er mwyn derbyn swydd cyfarwyddwr rygbi mewn ysgol breifat yn Abu Dhabi.

Mae’r clwb wedi dweud y bydd Lyn Jones yn dechrau ar ei swydd fis nesaf, â’r nod o ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Aviva Lloegr.

“Rydw i wrth fy modd yn cael y cyfle i hyfforddi clwb fel Cymry Llundain,” meddai Lyn Jones.

“Fe fydda i’n gallu dod a fy mhrofiadau o hyfforddi ar y lefel uchaf i dîm sydd ag uchelgais.

“Bydd angen llawer iawn o waith caled er mwyn cau’r bwlch rhwng y Bencampwriaeth ac Uwch Gynghrair Aviva Lloegr.”

Mae Lyn Jones wedi dweud y bydd yn anhapus i adael ei swydd gydag Ysgol Brydeinig Al-Khubairat, ond ei fod am ddefnyddio ei brofiadau yno yn ei rôl newydd yn Llundain.

“Mae fy awch i hyfforddi yn parhau i fod yn gryf ac rwy’n gobeithio fod gen i lawer i’w gynnig i’r gêm ar y lefel uchaf am flynyddoedd i ddod,” meddai Lyn Jones.