Gavin Rees
Mae Gavin Rees yn targedu bod yn bencampwr y byd am yr ail dro yn ei yrfa ar ôl cipio coron Ewropeaidd drwy faeddu Andy Murray dros y penwythnos.

Fe enillodd y Cymro ar bwyntiau i ddod a record ddiguro Murray i ben yn y Motorpoint Arena yng Nghaerdydd.

Daw’r fuddugoliaeth pedair blynedd ar ôl iddo ennill coron y byd yn yr un safle gyda buddugoliaeth yn erbyn Souleymane M’baye.

“Mae’n wych ennill coron arall. Rwyf wedi ennill pob un nawr heb law am goron y Gymanwlad,” meddai Gavin Rees.

“Fe fyddai yn neis gallu cael gornest haws tro nesaf gan fy mod i wedi cael dwy ornest anodd yn ddiweddar. Ond yn amlwg os ddaw’r cyfle i herio am goron y byd, fe fydda i’n mynd amdano.

“Alla’i ddim gweld unrhyw reswm pam na alla i ymladd am goron y byd cyn diwedd y flwyddyn.”