Gavin Henson
Mae hyfforddwr y Gweilch, Scott Johnson, yn credu y bydd Gavin Henson yn ôl ar ei orau yn fuan ar ôl perfformiad braidd yn sigledig dros ei wlad dydd Sadwrn.

Fe chwaraeodd y canolwr am awr i Gymru yn erbyn y Barbariaid ddydd Sadwrn, ond gadawodd y cae heb fedru gwneud ei farc.

Dyma oedd ei gêm gyntaf dros Gymru ers Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2009.

Ychydig iawn o rygbi mae Henson wedi chwarae ers dychwelyd i’r gêm dros gyfnod y Nadolig, ond mae Warren Gatland wedi’i gynnwys yng ngharfan ymarfer Cymru ar gyfer Cwpan y Byd.

Mae Scott Johnson yn credu y bydd gan Henson y gallu i ddychwelyd i’r safon a oedd o fudd i Gymru wrth ennill y Gamp Lawn yn 2005 ac yn 2008.

“I fod yn deg dyw Gavin heb chwarae ryw lawer,” meddai Scott Johnson. “Rwy’n credu ei fod yn amlwg nad yw ar ei orau ar hyn o bryd, ond dyw hynny ddim yn golygu na allai fod ar ei orau unwaith eto,” meddai Scott Johnson.

“Roedd braidd yn rhydlyd ar adegau ddydd Sadwrn, ond mae’n chwaraewr o safon ac mae amser ar ei ochr.”

Mae yna adroddiadau y gallai Henson dychwelyd i’r Gweilch ar ôl cael ei ryddhau gan Toulon, ond mae Scott Johnson wedi nad yw wedi ystyried hynny.