Dyw
Gareth Delve
cynnwys Gareth Delve yn sgwad Cymru ddim yn syndod i’w hyfforddwyr a’i gyd-chwaraewyr yn y Melbourne Rebels.

Y Cymro 28 oed yw un o chwaraewyr gorau’r clwb y tymor yma yng nghystadleuaeth y Super 15 ac mae’n is-gapten y tîm.

Yn ôl hyfforddwr y Rebels, Rod McQueen, fe fydd chwarae yn hemisffer y De yn golygu bod Delve yn fwy deniadol i Gymru.

Mae wedi cael ei gynnwys yn sgwad hyfforddi Cymru ar gyfer Cwpan y Byd, er bod yr hyfforddwr, Warren Gatland, ar un adeg wedi dweud na fyddai’n dewis chwaraewyr tramor.

“Gyda Chwpan y Byd yn dod i lawr i Seland Newydd ac yntau’n chwarae wrth ochr yr holl chwaraewyr o Seland Newydd a De Affrica, r’ych chi’n dod i adnabod eu ffordd o chwarae yn llawer gwell ac yn sicr mae hynny’n fantais iddo,” meddai Rod McQueen wrth bapur yr Herald Sun.

Mae hyfforddwr Lloegr, Martin Johnson, wedi dweud na fydd yn dewis chwaraewyr o’r tu allan i Eworop, gan gynnwys cyd-alltud Delve ym Melbourne, y maswr Danny Cipriani.