Clawr y gyfrol newydd
Pe bai rheolwyr Toulon wedi prynu hunangofiant y chwaraewr rhyngwladol Dafydd Jones, fe fydden nhw’n gwybod beth i’w ddisgwyl gan Gavin Henson.
Yn ei gyfrol, Dal fy Nhir, mae cyn flaenasgellwr Cymru’n adrodd stori am achos arall pan oedd y canolwr dadleuol wedi creu helynt gyda’i gyn chwaraewyr.
Ar daith Cymru yn yr Ariannin yn 2004, roedd wedi gwawdio cefnwr y Scarlets, Barry Davies, ar ôl cymryd y crys 15 o’i flaen.
“Mae Barry’n foi addfwyn ond roedd e wedi cael llond bol,” meddai cyd awdur y gyfrol, Alun Gibbard. “Roiodd ei eithaf coten i Henson.”
Mae Gavin Henson bellach yn aros i glywed a fydd yn cael y sac gan Toulon wedi digwyddiad tebyg gyda chyd chwaraewyr yno.
Gorfod ymddeol
Mae’r llyfr yn cael ei gyhoeddi ynghanol blwyddyn dysteb Dafydd Jones, sydd wedi gorfod ymddeol yn gynnar o’r gêm oherwydd anaf.
Fe fydd yn cael ei lansio’n swyddogol adeg gêm i godi arian i’r chwaraewr o Geredigion – fe fydd timau dan arweiniad ei gyn gydchwaraewyr, y maswr Stephen Jones, a’r prop, John Davies, yn wynebu’i gilydd.
Stephen Jones ei hun fydd yn cymryd i gic gynta’ ar gae Aberaeron ddydd Sul, er na fydd yn gallu chwarae yng ngweddill y gêm, ond mae gobaith y bydd ambell gyn chwaraewr fel Garan Evans a Mark Jones o’r Scarlets yn cymryd rhan.
‘Yr adeg waetha’ bosib’
Roedd Alun Gibbard wedi dechrau siarad gyda Dafydd Jones ar gyfer y llyfr ar yr adeg waetha’ bosib, meddai, pan oedd Dafydd Jones newydd ddeall y byddai’n rhaid iddo ymddeol.
Roedd hynny ar adeg pan ddylai fod ar ei orau, yn 31 oed, ar ôl ennill mwy na 40 o gapiau tros Gymru. Roedd wedi cael anaf drwg i’w ysgwydd yn 2009.
“Ar y dechrau, roedd wedi cadw’i ben i lawr ond mae e bellach wedi dod i delerau â’r peth ac yn meddwl am y camau nesa’,” meddai Alun Gibbard.
“Mae’n wir fod chwaraewyr rygbi’n gwybod y byddan nhw’n gorfod ymddeol ond mae cael eich gorfodi i wneud yn fater arall.”
‘Person hoffus tu hwnt’
“Ond mae Dafydd yn berson hoffus tu hwnt ac yn berson emosiynol iawn,” meddai Alun Gibbard. “Does dim ofn arno fe i ddangos yr ochr honno – mewn byd macho fel rygbi, mae hynny’n fwy dewr fyth.”
Mae gan Dafydd Jones sylwadau hefyd am hyfforddwyr Cymru, gan gynnwys Warren Gatland. Ynghanol canmoliaeth, mae hefyd yn ei feirniadu am feio chwaraewyr yn gyhoeddus ar ôl gêmau.
Ac mae’n rhybuddio na fydd y polisi o wrthod chwaraewyr o glybiau’r tu allan i Gymru’n gweithio, os oes disgwyl i ranbarthau Cymru hefyd chwarae llawer o chwaraewyr tramor.
Mae Dal Fy Nhir yn cael ei gyhoeddi gan Wasg y Lolfa.