Mae’r Dreigiau wedi cadarnhau bod eu cefnwr, Martyn Thomas, allan am weddill y tymor ar ôl torri ei goes unwaith eto.
Dim ond ym mis Chwefror roedd Thomas wedi dychwelyd i chwarae ar ôl iddo dorri a datgymalu’r un goes ym mis Ebrill 2010.
Fe fydd rhaid i’r cefnwr gael llawdriniaeth ar yr anaf newydd a ddioddefodd yn ystod y fuddugoliaeth 33-10 yn erbyn Treviso ddoe.
“R’yn ni’n siomedig iawn dros Martyn. Mae eisoes wedi cael amser caled yn gwella o’r anaf cynt ac mae hwn yn ergyd galed iddo,” meddai Rheolwr Rygbi’r Dreigiau, Robert Beale.
“Ond fe ddangosodd ei fod yn gymeriad cryf wrth wella y tro diwethaf ac r’yn ni’n ffyddiog y bydd yn barod am her arall.”
Mae’r clo, Luke Charteris, hefyd wedi dioddef anaf i’w asennau ac fe fydd yn cael ei asesu ymhellach yn ystod yr wythnos.
Mae disgwyl i Aled Brew, a anafodd ei bigwrn ddoe, ddychwelyd i chwarae yn erbyn y Gweilch ar 15 Ebrill.