Gavin Quinell cyn colli ei lygad
Mae teulu Gavin Quinnell yn dweud eu bod nhw wedi synnu â penderfyniad Undeb Rygbi Cymru i ollwng cwyn ar ôl i’r cyn-Scarlet golli’r golwg yn un o’i lygaid.

Bu’n rhaid i’r Cymro roi’r gorau i chwarae dilyn yr anaf difrifol i’w lygad wrth chwarae dros Lanelli yn erbyn Cross Keys.

Cafodd mab cyn chwarae Cymru a’r Llewod, Derek Quinnell, a brawd Scott a Craig, lawdriniaeth ar ei lygad chwith ond methwyd a’i achub.

Mae’n parhau i dderbyn triniaeth feddygol o dan ofal arbenigwr yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Ond mae Undeb Rygbi Cymru wedi penderfynu nad oes achos i’w ateb yn dilyn y cwyn a gyflwynwyd gan Glwb Rygbi Llanelli.

Roedd Gavin Quinnell wedi ail arwyddo i ranbarth y Scarlets ar ôl treulio dwy flynedd yn chwarae yng Nghaerwrangon a dwy flynedd yn chwarae dros Viadana yn yr Eidal.

Roedd yn chwarae dros Glwb Rygbi Llanelli o dan gytundeb y Scarlets pan ddigwyddodd yr anaf.

Datganiad y teulu Quinnell

“R’yn ni gyd wedi’n syfrdanu gan y penderfyniad a wnaethpwyd. Yn naturiol mae Gavin a’i deulu yn hynod o siomedig â’r penderfyniad ac wedi gofyn am amser i ddod i delerau â’r canlyniad,” meddai’r teulu.

“Mae’n wir dweud fod pawb sydd ynghlwm a’r achos wedi synnu a dydyn ni ddim  yn gallu gwneud unrhyw sylwadau pellach; does dim amser wedi bod er mwyn gwneud penderfyniad ynglŷn â’r ffordd ymlaen chwaith.

“Mae’r teulu’n dymuno diolch i’r rheini sydd wedi dangos eu cefnogaeth drwy’r cyfnod anodd yma.”