Paul Quinn
Mae’r Adar Glas wedi bygwth perfformiad tebyg i’r fuddugoliaeth yn erbyn Derby ers peth amser, yn ôl yr amddiffynnwr Caerdydd, Paul Quinn.

Mae tîm Dave Jones wedi symud i’r trydydd safle yn y Bencampwriaeth yn dilyn eu buddugoliaeth 4-1 ddydd Sadwrn.

Dywedodd Quinn fod y fuddugoliaeth yn haeddiannol yn dilyn ymdrechion y garfan yn ddiweddar.

“Dw i ddim yn credu ein bod ni wedi cael y canlyniadau yr oedden ni wedi eu haeddu dros y pedair gêm flaenorol,” meddai.

“Roedden wedi bod yn bygwth perfformiad tebyg i ddydd Sadwrn ers peth amser.

“Yr unig siom oedd caniatáu i Derby sleifio un heibio. Ond doedd hynny ddim yn cymryd dim o’r sglein o’r canlyniad.

“Mae angen i ni ddal i fyny gyda Norwich nawr. Rhaid i ni geisio sicrhau’r canlyniadau a gobeithio bod y timau eraill yn colli.

“R’yn ni wedi neidio dros ben Abertawe, a nawr mae’n rhaid i ni geisio cyrraedd yr ail safle.”