Mae’r Seintiau Newydd wedi cadarnhau bod Carl Darlington wedi ei benodi’n hyfforddwr tîm cyntaf y clwb.
Mae Darlington yn astudio ar gyfer ei drwydded UEFA Pro Licence ar hyn o bryd ac fe fydd yn cymryd cyfrifoldeb dros faterion tîm cyntaf y clwb.
Mae cyn-reolwr y clwb, Mike Davies, wedi ei symud i rôl newydd yn gyfarwyddwr pêl droed y Seintiau Newydd.
Fe fydd yn gyfrifol am ddatblygiad y clwb, o strwythur yr academi i’r tîm cyntaf.
Fe fydd un o chwaraewyr y clwb, Scott Ruscoe, hefyd yn cynorthwyo gyda dyletswyddau hyfforddi’r tîm cyntaf.
“Dw i wrth fy modd yn cael ymestyn fy nghyfrifoldebau gyda’r clwb a chyd-weithio gyda Mike Davies i sicrhau bod y clwb yn llwyddiannus ar y llwyfan domestig ac Ewropeaidd,” meddai Carl Darlington.
Mae Mike Davies wedi dweud y bydd y strwythur hyfforddi newydd yn sicrhau cysondeb i’r Seintiau Newydd dros y blynyddoedd i ddod.
Daw’r cyhoeddiad ar ôl i Brestatyn ac Airbus UK ddweud yr wythnos diwethaf eu bod nhw wedi gwneud newidiadau i’w strwythurau rheoli er mwyn cwrdd â gofynion trwydded Ewropeaidd Cymdeithas Bêl Droed Cymru.
Mae Prestatyn wedi penodi Lee Jones yn rheolwr tîm cyntaf gyda Neil Gibson yn symud i swydd cyfarwyddwr pêl droed.
Fe gyhoeddodd Airbus UK mae Darren Ryan oedd hyfforddwr tîm cyntaf y clwb gyda Craig Harrison yn gyfarwyddwr pêl droed.