Gethin Jenkins
Mae prop Cymru, Gethin Jenkins, yn gobeithio y bydd yn gallu ail-ddechrau chwarae cyn diwedd y tymor.
Mae Jenkins wedi bod ar yr ystlys ers mis Ionawr yn dilyn llawdriniaeth i’w fys bawd ei droed.
Fe fethodd y Cymro Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ond mae wedi ail-ddechrau ymarfer dros yr wythnosau diwethaf .
“Mae Gethin wedi gweithio’n galed iawn ar ei ffitrwydd. Mae wedi dechrau rhedeg a gwneud ychydig o waith cyffwrdd,” meddai Cyfarwyddwr Rygbi’r Gleision, Dai Young.
“Mewn tair neu bedair wythnos fe fydd yn ddigon da i chwarae. Mae’n gobeithio chwarae ambell gêm erbyn diwedd y tymor.
“Ond os na fydd yn ddigon ffit i chwarae, ni fydd yn chwarae unrhyw gêm. Ni fydd yn cael ei wthio yn ôl i’r cae cyn ei fod yn barod.
“Ond does dim rheswm pam na allai chwarae mewn cwpl o gemau.”
Fe allai Gethin Jenkins fod yn barod i ddychwelyd ar gyfer gêm gartref y Gleision yn erbyn Treviso ar 21 Ebrill, neu’r gêm ddarbi yn erbyn y Scarlets ar 6 Mai.