Ashley Williams
Mae’r tymor ymhell o fod ar ben i’r Elyrch, ar ôl iddyn nhw golli eto dros y penwythnos, yn ôl Ashley Williams.
Fe ddisgynnodd tîm Brendan Rodgers i’r pedwerydd safle yn nhabl y Bencampwriaeth ar ôl colli 2-1 yn erbyn Preston yn Deepdale.
Ond gyda saith gêm o’r tymor arferol yn weddill, mae Williams yn credu bod yna ddigon o gyfle i daro ‘nôl, gan ddechrau yn erbyn Norwich, sydd yn ail yn y tabl, ddydd Sadwrn nesaf.
“Dyw’r tymor ddim ar ben eto. R’yn ni wedi colli gêm ond mae’n rhaid i ni symud ymlaen,” meddai Ashley Williams.
“Fe fydd rhai pobl yn gorymateb i’r golled ond mae’r chwaraewyr wedi bod gyda’i gilydd ers tipyn o amser ac fe fyddwn ni’n gwneud yn siŵr bod pawb yn unedig.
“Fe fydd y gêm yn erbyn Norwich yn gyfle perffaith i ni daro yn ôl. Yn dilyn y siom yn erbyn Preston, mae angen gêm fawr arnom ni.
“R’yn ni ar ein gorau yn y gemau mawr ac fe fydd yn gêm berffaith i ddangos ein bod ni’n parhau i gystadlu am ddyrchafiad.”