Gareth Thomas
Salford City Reds 10 Crusaders 16

Cais gan y cyn arwr undeb, Gareth Thomas, a seliodd ail fuddugoliaeth y Croesgadwyr a’u codi o waelod y Super League.

Dyma’r tro cynta’ iddyn nhw ennill ers curo Salford yng ngêm gynta’r tymor ond roedd hi’n llawer tynnach y tro yma.

Doedd dim sgôr tan ychydig eiliadau cyn yr egwyl pan gododd Jordan Tamsey bêl rydd a rhedeg 90 llath i roi’r Crusaders ar y blaen, gyda throsiad Chris  Schifcofske yn ei gwneud hi’n 6-0.

Roedd yna gais arall bron yn union wedi’r egwyl trwy Jarrod Sammut – a throsiad arall gan Schifcofske sydd wedi sgorio ym mhob gêm y tymor yma.

Fe ddaeth Salford yn ôl ac fe allen nhw fod wedi cael cais neu ddau arall cyn i sgôr Thomas setlo pethau.