Dan Biggar - goliau cosb ac un adlam
Gweilch 21 Gleision 21

Roedd y Gweilch yn teimlo’u bod wedi colli cyfle ar ôl methu â churo’r Gleision mewn gêm galed yn Stadiwm Liberty.

Gormod o godi a rhuthro yn y 22 oedd ar fai, meddai’r capten, Alun Wyn Jones, tra bod yr hyfforddwr Sean Holley’n condemnio ymdrechion gwyllt i gael goliau adlam tua’r diwedd.

Mae’r canlyniad a dau bwynt yr un yn golygu bod gan y ddau dîm obaith o gyrraedd pedwar olaf Cynghrair Magners a’r gêmau cwpan ar y diwedd.

Mae’r Gweilch wedi codi i’r trydydd safle, un pwynt o flaen Leinster ac mae gan y Gleision, sy’n bumed, un gêm ychwanegol i’w chwarae sy’n rhoi cyfle iddyn nhwthau ddal y Gwyddelod.

Neb yn agos at gais

Mewn gwirionedd, ddaeth yr un o’r ddau dîm yn agos at gais wrth i reolaeth bendilio’n ôl ac ymlaen er mai’r Gweilch a gafodd y gorau ohoni yn y chwarae gosod.

Ciciau cosb a goliau adlam oedd yr unig sgoriau a’r ddau Dan yn amlwg – Biggar yn cicio pum gôl gosb ac un gôl adlam i’r Gweilch a Dan Parks yn cael pum gôl gosb a dwy gôl adlam i’r Gleision. James Hook a gafodd gôl adlam arall y tîm cartref.

Yn y chwarter awr olaf, a hithau’n gyfartal, fe roddodd Biggar a Hook gynigion am goliau adlam eraill o bellter – camgymeriad yn ôl Holley wedyn.

Agos at y gwynt

Roedd chwarae amheus ar ymylon sgarmesoedd ac ar ôl taclo wedi amharu ar lif y gêm, meddai, gyda’r ddau dîm yn hwylio’n agos iawn at y gwynt.

Yn ôl Alun Wyn Jones, fe ddylai’r Gweilch fod wedi codi eu pennau a lledu’r bêl rhagor yn 22 y Gleision, pan oedd gormod o amddiffynwyr yno i rwystro rhuthr y blaenwyr.