Jay Bothroyd - dechrau pethau
Caerdydd 4 Derby 1
Dim ond un gŵyn oedd gan reolwr Caerdydd ar ôl curo Derby’n gyfforddus – roedden nhw wedi gorffwys ar eu rhwyfau yn y chwarter awr olaf.
Fe roddodd hynny gyfle i’r ymwelwyr gael un gôl, gyda’r Adar Glas yn methu â manteisio trwy sgorio rhagor.
Ond maen nhw wedi codi uwchben Abertawe i’r tryddydd lle yn y Bencampwriaeth, ar wahaniaeth goliau.
Dim amheuaeth
Doedd dim amheuaeth o’r dechrau am y canlyniad yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth i Gaerdydd fynd ar y blaen o fewn saith munud.
Fe fu’n rhaid i Derby droseddu yn y bocs i atal Craig Bellamy ac, ar ei gêm gynta’n ôl wedi anaf, fe sgoriodd Jay Bothroyd o’r smotyn.
Fe gafodd Bellamy un cyfle da i sgorio’r ail, ond 1-0 oedd hi ar yr hanner.
Tair sydyn yn yr ail hanner
Fe sgoriodd Caerdydd dair yn gyflym ar ôl yr egwyl – y gyntaf o beniad gan Dekel Keinan, a’r ddwy nesa’ o symudiadau tebyg gyda Bellamy’n defnyddio’i gyflymder ar yr asgell.
Phil Quinn a gafodd un a Peter Whittingham y llall, gyda foli, cyn i’r Cymro, Robbie Savage, gael unig gôl Derby o’r smotyn.
“Ro’n i ychydig yn flin efo nhw ar y diwedd,” meddai Dave Jones. “Ond dw i’n gallu deall hefyd; roedden nhw wedi gwneud gwaith da am 75 munud.”