Ashley Williams
Preston 2 Abertawe 1

Fe fydd rhaid i Abertawe ennill eu gêm nesa’ os ydyn nhw am gael unrhyw obaith o’r ail le yn y Bencampwriaeth a dyrchafiad otomatig i’r Uwch Gynghrair.

Dyna gasgliad eu rheolwr ar ôl gweld yr Elyrch yn colli i’r tîm ar waelod y tabl. Maen nhw bellach yn bedwerydd y tu ôl i Gaerdydd wrth i’r Adar Glas, Norwich a Leeds i gyd ennill.

Fe fydd Abertawe’n croesawu Norwich, sy’n ail a phedwar pwynt o’u blaenau nhw, i Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn nesa’.

Doedd yr Elyrch ddim yn haeddu dim o’u hymweliad â Deepdale, meddai Brendan Rodgers wedyn, gan feirniadu’r amddiffynwyr.

‘Ddim digon da’

“Os byddwn ni’n amddiffyn fel yna yn ystod y saith gêm nesaf, allwn ni ddim disgwyl bod yn llwyddiannus,” meddai Brendan Rodgers. “Yn amddiffynnol, doedden ni ddim yn ddigon da.”

Ei unig gŵyn oedd fod y glaswellt heb ei dorri cyn y gêm, wrth i Preston fynd ati i atal Abertawe rhag chwarae eu pêl-droed gorau.

Fe ddaeth gôl Abertawe yn yr hanner cynta’ gan y capten Ashley Williams ar ôl i Preston fynd ar y blaen ar ôl dim ond tri munud.

Roedd y goli, Dorus de Vries, yn lwcus i aros ar y cae bryd hynny ar ôl ildio cic o’r smotyn.