Y trobwynt - dim cais i Morgan Stoddart
Ulster 20 Scarlets 18

Roedd y Scarlets yn anhapus gyda’r dyfarnwr ar ôl colli gêm dyngedfennol yng ngogledd Iwerddon.

Er eu bod wedi cael pwynt bonws yn gysur, mae’r golled fwy neu lai’n gorffen eu gobeithion o gyrraedd rowndiau cwpan Cynghrair Magners.

Maen nhw’n aros yn bumed ac Ulster yn symud i’r ail safle. Cyn y gêm, roedd hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies, wedi dweud ei bod fel gêm rownd derfynol i’r tîm.

Rees yn beirniadu

Wedi’r gêm, roedd capten y Scarlets, Matthew Rees, yn feirniadol iawn o’r dyfarnwr am roi rhes o giciau cosb yn erbyn y Cymry a gwrthod cais posib gan Morgan Stoddart.

Fe gafodd maswr Ulster, Ian Humphreys, gais yn y naill hanner a’r llall i sicrhau’r fuddugoliaeth ond roedd y Scarlets wedi eu gwthio’n agos, yn enwedig ar ddechrau a diwedd yr ail hanner.

Roedd y Gwyddelod 13-6 ar y blaen ar yr hanner, gyda dim ond dwy gic gosb gan Stephen Jones i’r Cymry ond fe gawson nhw gais o fewn llai na munud i’r egwyl, gyda Regan King yn rhyddhau ei gyd-ganolwr Jon Davies i guro’r amddiffyn yn y gornel.

Y trobwynt

Trobwynt y gêm oedd penderfyniad y dyfarnwr teledu i wrthod cais gan Morgan Stoddart ar ôl iddo ddilyn ei gic ei hun – y dyfarniad oedd ei fod wedi taro’r bêl ymlaen wrth groesi.

O fewn ychydig, roedd Ulster 20-11 ar y blaen ond roedd yna ddiwedd agos wrth i eilydd y Scarlets, y blaenasgellwr Aaron Shingler, ryng-gipio yn ei hanner ei hun a chroesi.