Anthony Hudson, rheolwr newydd Casnewydd
Mae Casnewydd wedi enwi hyfforddwr ail dîm Tottenham, Anthony Hudson yn rheolwr newydd y clwb. 

Mae’r rheolwr 30 oed yn olynu Dean Holdsworth a oedd wedi gadael Casnewydd i ymuno gydag Aldershot ym mis Ionawr. 

Roedd Tim Harris wedi cymryd yr awenau dros dro tra bod y clwb yn canfod rheolwr parhaol.

Fe fydd Anthony Hudson yn bresennol i wylio ei glwb newydd yn herio Grimsby yfory, ac fe fydd yn dechrau ar ei waith yn swyddogol dydd Llun. 

Roedd cyn amddiffynnwr Gweriniaeth Iwerddon, Liam Daish a rheolwr cynorthwyol Hartlepool Utd, Colin West hefyd wedi cael eu hystyried am y swydd. 

Ond mewn datganiad, fe ddywedodd cadeirydd Casnewydd, Chris Blight bod rheolwr Tottenham, Harry Redknapp wedi chwarae rhan allweddol ym mhenodiad Hudson. 

Fe ddywedodd Harry Redknapp wrth Gasnewydd bod Anthony Hudson yn ymroddedig iawn i’w waith, ac nad oedd am ei golli.  Ond ar ôl i Hudson ofyn am ganiatâd i adael, nid oedd Redknapp am ei rwystro.