Bydd Richie Rees yn dychwelyd i dîm Gleision Caerdydd ar gyfer y gêm ddarbi fawr yn erbyn y Gweilch nos yfory.

Mae’r mewnwr yn dechrau ei gêm gyntaf ers cael ei wahardd am 12 wythnos nôl ym mis  Ionawr.

Mi fethodd y Cymro Bencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni ar ôl i banel disgyblu ei gael yn euog o fyseddu llygaid bachwr Lloegr, Dylan Hartley, mewn gêm Cwpan Heineken fis Rhagfyr y llynedd.

Y gêm olaf i Rees chwarae oedd i’r Gleision yn erbyn y Gweilch ar Nos Calan pan enillodd tîm y brifddinas 27-25.

Mae Jamie Roberts, Tom James a Dan Parks yn dychwelyd  i rengoedd cefnwyr y Gleision tra bod Bradley Davies, Gareth Williams a Fau Filise wedi eu cynnwys yn y pac.

Mae’r Gleision yn gwybod bod buddugoliaeth yn holl bwysig wrth iddyn nhw geisio lleihau mantais pum pwynt sydd gan y Gweilch arnyn nhw yn y tabl.

“R’y ni’n gwybod bod angen i ni chwarae’n well ac ennill y pum gêm sy’n weddill,” meddai Cyfarwyddwr Rygbi’r Gleision, Dai Young.

“Does dim llawer o dimau’n mynd i Stadiwm Liberty ac ennill.  R’y ni’n gwybod pa mor anodd fydd hi.  Ond os ydyn ni’n mynd i gyrraedd y gemau ail gyfle, mae’n rhaid i ni ennill.”

Y Gweilch

Mae Mike Phillips yn dychwelyd i garfan y Gweilch ac fe fydd mewnwr Cymru ar y fainc nos yfory.

Bydd James Hook, Paul James, Alun Wyn Jones a Jerry Collins yn dychwelyd i roi hwb i dîm Scott Johnson ar gyfer y ddarbi.

Mae Prif Hyfforddwr y Gweilch, Sean Holley, wedi dweud bod rhaid i’r Gweilch wneud y pethau syml yn iawn ar ôl colli 23-16 yn erbyn Caeredin penwythnos diwethaf.

“Mae’n rhaid i ni wneud ein gwaith cartref ar y gwrthwynebwyr a pharatoi’n iawn,” meddai.

“Os gallwn ni wneud hynny, fe ddylen ni gael perfformiad da a sicrhau bod ein gobeithion o gyrraedd y gemau ail gyfle ‘nôl ar y llwybr cywir.”

Carfan y Gweilch

Olwyr: 15 Richard Fussell 14 Tommy Bowe 13 Sonny Parker 12 James Hook 11 Nikki Walker 10 Dan Biggar 9 Rhys Webb.

Blaenwyr: 1 Paul James 2 Huw Bennett 3 Adam Jones 4 Alun Wyn Jones 5 Ian Evans 6 Ryan Jones 7 Justin Tipuric 8 Jerry Collins.

Eilyddion: 16 Richard Hibbard 17 Ryan Bevington 18 Cai Griffiths 19 Ian Gough 20 Jonathan Thomas 21 Mike Phillips 22 Andrew Bishop 23 Lee Byrne.

Carfan y Gleision

Olwyr: 15 Chris Czekaj 14 Leigh Halfpenny 13 Casey Laulala 12 Jamie Roberts 11 Tom James 10 Dan Parks 9 Richie Rees.

Blaenwyr: 1 Fau Filise 2 Gareth Williams 3 Scott Andrews  4 Bradley Davies 5 Paul Tito 6 Andries Pretorius 7 Martyn Williams 8 Xavier Rush.

Eilyddion; 16 Rhys Williams 17 Sam Hobbs 18 Nathan Trevett 19 Michael Paterson 20 Mamma Molitika 21 Lloyd Williams 22 Ceri Sweeney 23 Dafydd Hewi