Brendan Rodgers
Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers wedi dweud bod ffawd eu tymor yn eu dwylo nhw’u hunain. 

Gydag wyth gêm yn weddill yn nhymor arferol y Bencampwriaeth, mae’r Elyrch yn y trydydd safle – un pwynt y tu ôl i Norwich yn yr ail safle. 

Mae Brendan Rodgers yn credu bod y cyfle i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn nwylo ei dîm yn llwyr. 

“Fe ddechreuodd y tymor gyda’r siarad ei fod yn farathon. Ond r’y ni nawr wedi cyrraedd y pwynt lle r’y ni wedi cwblhau’r mwyafrif ohono ac yn barod am y sbrint olaf,” meddai Brendan Rodgers. 

“Mae ‘na wyth gêm ar ôl dros chwe wythnos holl bwysig i bawb.  Ond y peth da amdano yw bod y cyfan yn ein dwylo ni”

“Y ddau  brif beth am ein tymor ni yw ein cymeriad a safon y chwarae.  Os gallwn ni eu cynnal yn ein gemau olaf yn ogystal â chael ychydig o lwc, fe allwn ni wireddu ein breuddwyd”

Mae Abertawe yn cychwyn rhan olaf y tymor gyda charfan lawn heb bryderon am anafiadau ac mae Brendan Rodgers wedi dweud bod hynny’n fonws iddyn nhw.