Nigel Davies, hyfforddwr y Scarlets
Bydd angen gwell perfformiad nag yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Trevisio os yw’r Scarlets am faeddu Ulster, meddai’r Prif Hyfforddwr, Nigel Davies.

Mae’r Scarlets, sy’n chweched yn y tabl ar hyn o bryd ar 50 pwynt, yn gobeithio cau’r bwlch ar Ulster sy’n drydydd ar 55 pwynt.

Ond dywedodd Nigel Davies fod ei dîm yn wynebu her anodd yn erbyn y Gwyddelod.

Er eu bod nhw wedi maeddu Treviso y penwythnos diwethaf, dywedodd ei fod yn gobeithio y byddwn nhw’n chwarae yn well heno.

“Mae Ulster yn dîm da sydd wedi cael llawer iawn o lwyddiant yn ddiweddar ond mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein gêm ein hunain,” meddai Prif Hyfforddwr y Scarlets.

“Roedd y gêm ddydd Sul wedi dangos fod yn rhaid i ni ganolbwyntio ar gael gwared ar y camgymeriadau.

“Mae’n rhaid i ni sicrhau’r meddiant ac adeiladu ar hynny. Mae’n beth da i chwarae rygbi agored ond rhaid i’r cefnwyr fod yr un mor effeithiol yn ardal y dacl a’r blaenwyr heno.”

Newyddion y tîm

Ni fydd yr asgellwr Sean Lamont, y mewnwr Gareth Davies, na chwaith yr asgellwr George North ar gael oherwydd anafiadau.

Ond mae’r capten Matthew Rees yn ôl yn y tîm ac mae’r wythwr David Lyons yn dychwelyd i’r fainc ar ôl gwella o anaf.

Carfan y Scarlets

Rhys Priestland, Gareth Maule, Regan King, Jon Davies, Morgan Stoddart, Stephen Jones, Tavis Knoyle.

Iestyn Thomas, Matthew Rees, Rhys Thomas, Lou Reed, Rob McCusker, Josh Turnbull, Johnathan Edwards, Ben Morgan.

Eilyddion- Emyr Phillips, Rhodri Jones, Peter Edwards, Aaron Shingler, David Lyons, Martin Roberts, Daniel Evans, Scott Williams.