Henson - yn haeddu crys coch Cymru?
Mae Gavin Henson wedi datgelu y bydd yn chwarae ei gêm gyntaf dros Toulon yn erbyn Stade Francais ar y penwythnos.

Mae’r canolwr heb chwarae i’w glwb newydd ers iddo ymuno oddi wrth y Saraseniaid ym mis Chwefror.

Fe ddioddefodd Henson anaf i’w goes wrth chwarae i’r Saraseniaid yn erbyn Leinster yn y Cwpan Heineken. Dyna oedd ei bedwerydd ymddangosiad i’r clwb o Lundain cyn cael ei ryddhau o’i gytundeb.

Dim ond pedair gêm o dymor arferol Ffrainc sy’n weddill, ac mae Henson yn brin o amser i ennill ei le yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn Seland Newydd.

“Fe fyddaf i yn dechrau yn safle rhif 12 yn erbyn Stade Francais a dw i’n hapus iawn yn cael ail-ddechrau chwarae,” meddai Henson wrth raglen Scrum V.

“Dw i ychydig bach yn nerfus. Mae wedi bod tua dwy flynedd ers i mi ddechrau yn safle rhif 12.  Ond dw i’n teimlo’n gyffrous ac yn methu disgwyl i ddechrau’r gêm.”

Mae Gavin Henson yn gobeithio chwarae ym mhedair gêm olaf y tymor, a helpu Toulon i sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle, a fyddai’n golygu fod ganddo fwy o gemau i brofi ei hun.

“Rwy’n ymwybodol fod yna gemau rhyngwladol yn ystod yr haf a bod Cwpan y Byd yn agosáu,” meddai Henson.

“Os alla’i ddechrau’r pedair gêm dros Toulon, rwy’n hoffi meddwl y byddai Cymru’n fodlon rhoi cyfle i mi yn un o’r gemau dros yr haf. Rwy’n dal i gredu fod gen i gyfle i chwarae yng Nghwpan y Byd.”