Mae Leinster wedi ennill gêm bwysig wrth guro’r Dreigiau yng Nghasnewydd heddiw.

Fe all eu buddugoliaeth olygu bygythiad i’r Gweilch, sy’n union uwch eu pennau yn nhrydydd safle Cynghrair Magners.

Roedd y Dreigiau ar y blaen 13-10 ar hanner amser, ond aeth Leinster ymlaen i gipio buddugoliaeth ysgubol yn yr ail hanner.

Fe ddigwyddodd unig gais y tîm cartref ar ôl 19 munud pan wibiodd Adam Hughes 60 metr i groesi’r llinell.