Dan Biggar - a sgoriodd holl bwyntiau'r Gweilch ddoe
Mewn perfformiad cofiadwy, llwyddodd Caeredin i ddod â rhediad o enillion y Gweilch i ben ym Murrayfield neithiwr.

Roedd y Gweilch wedi cychwyn y gêm yn gyflym gan fynd ar y blaen 13-3 diolch i gais, trosiad a dwy gic gosb gan Dan Biggar, wrth iddyn ymddangos fel petaen nhw ar eu ffordd at wythfed buddugoliaeth olynol.

Ond er i’r Gweilch chwarae’n dda, gydag amryw o chwaraewyr rhyngwladol yn ôl ar ddyletswydd ar ôl gemau’r Chwe Gwlad, wnaethon nhw ddim llwyddo i ychwanegu mwy na thri phwynt at eu sgôr yn yr ail hanner, gyda chic gosb arall gan Biggar.

Roedd Caeredin wedi llusgo’i hun yn ôl i’r gêm yn ystod yr hanner cyntaf gyda chais Jim Thompson a throsiad a chic gosb gan Greig Laidlaw yn dod â’r sgôr i 13-10 erbyn hanner amser. Yn yr ail hanner wedyn fe wnaeth cais gan Tim Visser, a throsiad a dwy gic gosb Laidlaw selio buddugoliaeth werthfawr i’r tîm cartref.

Mae’r Gweilch yn dal yn drydydd yn y tabl, ond fe fyddan nhw’n edrych yn nerfus dros eu hysgwyddau wrth i’r Gleision chwilio am eu cyfle olaf i sicrhau eu lle ymysg y pedwar ar y brig.