Gary Speed, rheolwr Cymru
Mae rheolwr Cymru, Gary Speed, yn pwyso ar gefnogwyr Cymru i ddal i gredu ar ôl i’r tîm cenedlaethol golli 2-0 yn erbyn Lloegr ddoe.

Cafodd gobeithion Cymru eu dryllio o fewn 15 munud ar ôl i Frank Lempard a Darren Bent sgorio’u goliau dros Loegr.

Eto, mae Gary Speed yn gobeithio y bydd y cefnogwyr wedi gweld rhai pethau calonogol yn ystod y gêm.

“Dw i’n gobeithio y bydd y cefnogwyr yn dal i fod yn driw,” meddai.

“Wnaethon ni ddim rhoi llawer iddyn nhw lawenhau yn ei gylch heddiw. Roedd hi’n anodd iawn yn erbyn tîm o’r radd flaenaf.

“Ond fyddwn ni ddim yn chwarae yn erbyn Lloegr bob amser. Gobeithio y bydd y cefnogwyr yn gweld hynny a phan ddôn nhw’n ôl y byddan nhw’n ein hannog ni ymlaen eto.”

Dywedodd capten Cymru, Aaron Ramsey, ei fod yn credu y bydd Cymru’n dysgu llawer o’r gêm – er gwaetha’r perfformiad siomedig.

“Ein nod yw mynd trwodd i rowndiau terfynol Cwpan y Byd ym Mrasil,” meddai.

“Rydyn ni’n paratoi ar gyfer hynny’n awr ac mae hwn yn gam i’r cyfeiriad iawn.

“Fe fyddwn ni’n dysgu llawer oddi wrtho, ond yn amlwg roedd yn ganlyniad siomedig iawn.”