Colli o ddwy gôl i ddim fu hanes Cymru yn y gêm yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm y prynhawn yma.
Gyda goliau cynnar gan Frank Lampard a Darren Bent, cafodd gobeithion Cymru eu dryllio ymhell cyn hanner amser.
Roedd Gary Speed, yn ei gêm ryngwladol gyntaf fel rheolwr, wedi llwyddo i gasglu ynghyd un o’r carfannau cenedlaethol cryfaf ers tro, er i’w gynlluniau gael eu llesteirio pan fu’n rhaid i Gareth Bale dynnu’n ôl yn gynharach yn ystod yr wythnos.
Fe ddechreuodd Cymru’n llawn angerdd, gyda Craig Bellamy yn dal ei dir yn erbyn ergydiwr Lloegr, Wayne Rooney. Roedd Aaron Ramsey hefyd yn chwarae’n llawn brwdfrydedd yn ei gêm gyntaf fel capten.
Buan y trôdd y gobaith yn siom, fodd bynnag, ar ôl gôl gyntaf dyngedfennol Lloegr.
Fe sgoriodd Lampard ei gôl gyda chic o’r smotyn ar y seithfed munud, ac wyth munud yn ddiweddarach, fe wnaeth Bent ddyblu’r fantais i Loegr.
Er gwaethaf goruchafiaeth Lloegr yn yr hanner cyntaf, llwyddodd Cymru i adennill rhywfaint o falchder gyda chwarae cystadleuol ar ôl hanner amser.
Fodd bynnag, ni ddigwyddodd dim i achosi unrhyw bryder gwirioneddol i dîm Fabio Capello.
Yn sgil eu buddugoliaeth heddiw, mae Lloegr yn ôl ar frig Grwp G Euro 2012.