Aaron Ramsey, capten Cymru heddiw
Wrth edrych ymlaen  at herio Lloegr y prynhawn yma, dywed capten Cymru fod ei frwydr hir yn ôl i ffitrwydd ar ôl anaf difrifol wedi rhoi nerth meddyliol iddo.

Dim ond yn y pythefnos ddiwethaf y mae Aaron Ramsey wedi dychwelyd i Arsenal ar ôl iddo dorri ei goes yn ddrwg ychydig dros flwyddyn yn ôl.

Fe dreuliodd y chwaraewr canol cae 20 oed naw mis ar yr ymylon cyn ymuno â Notttingham Forest ac wedyn Caerdydd i wella’i ffitrwydd.

“Dw i wedi bod trwy lawer yn ystod y flwyddyn ddiwethaf,” meddai Aaron Ramsey. “Dw i wedi gorfod bod yn gryf yn feddyliol i ddod trwyddo.

“Fyddwn i ddim wedi gallu gwneud hynny heb gefnogaeth fy ffrindiau a’m teulu a’r holl negeseuon gan gefnogwyr ledled y byd.

“Dw i’n sicr wedi bod trwy lawer, ond dw i’n meddwl fy mod i wedi elwa o hynny ac fy mod i wedi tyfu i fyny yn ystod y cyfnod hwnnw.”

Mae’n credu bod ei gyd-chwaraewr yn Arsenal, Cesc Fabregas, a gafodd ei benodi’n gapten yn 21 oed gan Arsene Wenger, yn esiampl dda iddo.

“Mae wedi gwneud llawer yn y gêm mor ifanc,” meddai.

“Mae wedi dod yn un o’r chwaraewyr canol cae gorau yn y byd. Mae ymarfer gydag ef bob dydd yn mynd i’ch helpu chi ac fe ellwch chi ddilyn ei esiampl. Mae’n arwain yn y ffordd y mae’n chwarae.”

Mae Aaron Ramsey yn cydnabod nad yw yr arweinydd uchaf ei lais, ond nid yw’n teimlo’i fod yn rhy dawel ar gyfer y swydd.

“Dw i’n berson eithaf ymarferol,” meddai. “Nid fi yw bywyd ac enaid y criw, ond dw i’n siarad llawer gyda phawb yn y tîm. Dw i ddim yn swil.”

Fe fydd yn gêm rhwng Cymru a Lloegr yn cychwyn am 3.00 yn Stadiwm y Mileniwm.