Dai Young - rhaid ennill y cyfan
Fe fydd y Gleision yn wynebu tasg anferth i geisio cyrraedd pedwar ola’ Cynghrair Magners ar ôl colli o bwynt i’r arweinwyr.

Mae’r hyfforddwr, Dai Young, yn dweud bellach y bydd rhaid iddyn nhw ennill pob un o’r pum gêm sydd ar ôl os ydyn nhw am lwyddo.

Ond mae pedair o’r rheiny oddi cartre’ a’r Gleision yn sownd yn y pumed lle bwynt y tu ôl i Leinster.

Er ei bod mor agos ar y diwedd, gyda maswr Iwerddon Ronan O’Gara’n cicio’r thriphwynt tyngedfennol tua chanol yr ail hanner, roedd sylwebyddion yn bendant mai Munster oedd yn haeddu ennill.

Yr unig gais

Nhw gafodd yr unig gais, yn yr hanner cynta’, wrth i’r chwaraewr rheng ôl, James Coughlan, orffen toriad gwych gan y cefnwr, Keith Earls.

Dim ond pedair cic gosb gan Leigh Halfpenny oedd wedi cadw’r Cymry yn y gêm – 13-12 i Munster oedd hi ar yr egwyl.

Fe gafodd y maswr Dan Parks gôl adlam ar ddechrau’r ail hanner i roi’r Gleision ar y blaen am ychydig ond, yn ôl Dai Young, fe wnaethon nhw ormod o gamgymeriadau ac fe allai Munster fod wedi ennill o fwy pe bai O’Gara wedi cicio gystal ag arfer.