Gareth Thomas
Mae Castleford wedi dweud eu bod nhw’n ffyddiog na fydd yna unrhyw siantio homoffobig pan fydd Gareth Thomas yn dychwelyd gyda’r Crusaders i’r Stadiwm PROBIZ ddydd Sul.

Cafodd y clwb ddirwy o £20,000 am dorri polisi parchu’r gynghrair ar ôl i rai yn y dorf watwar Gareth Thomas yn ystod ei ail ymddangosiad dros y Crusaders y llynedd.

Ond mae prif weithredwr Castleford wedi dweud bod y clwb wedi cymryd camre er mwyn sicrhau na fydd hynny’n digwydd eto.

Bydd staff ychwanegol yn tywys cefnogwyr allan o’r stadiwm pe baen nhw’n ymddwyn mewn modd annerbyniol, meddai.

Maen nhw hefyd wedi gosod camerâu cylch cyfyng yn y stadiwm a phosteri i atgoffa cefnogwyr i barchu chwaraewyr eu gwrthwynebwyr.

“Roedd llond llaw o ffyliaid wedi gwneud i’r clwb, y dref a’r gêm edrych yn wirion iawn y llynedd, ac r’yn ni wedi cymryd camre i ddelio â nhw,” meddai

“Fe fydd unrhyw un sy’n euog o ymddygiad homoffobig yn cael eu gwahardd o gemau yn barhaol.

“Mae dydd Sul yn gyfle i’r cefnogwyr ddangos nad yw Castleford yn glwb homoffobig.”