Shaun Edwards yn trafod â Warren Gatland
Mae hyfforddwr amddiffyn Cymru, Shaun Edwards, wedi dweud y bydd yn aros gyda Chymru nes diwedd ei gytundeb presennol.
Cafodd Shaun Edwards ei wahardd am wythnos yn dilyn ffrae gydag aelod arall o staff Cymru, Fergus Connolly, yn dilyn gêm Cymru yn erbyn Iwerddon yn y Chwe Gwlad.
Wrth ysgrifennu yn ei golofn ym mhapur newydd y Guardian, dywedodd Shaun Edwards ei fod wedi cyfarfod gyda Phrif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis yn Llundain ddoe.
“Rydw i dal yn hyfforddwr amddiffyn Cymru ac rwy’n gobeithio y bydd hi’n bosib anghofio’r ffrae yn dilyn gêm Iwerddon,” meddai Shaun Edwards.
“Cadarnhawyd yn ystod fy nghyfarfod gyda Roger Lewis ddoe y bydda’i yn cael cwblhau fy nghytundeb gyda Chymru, gan ddechrau yn erbyn y Barbariaid ym mis Mehefin a Seland Newydd yn yr hydref.”
Fe ddechreuodd Shaun Edwards weithio gyda Chymru cyn dechrau Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2008.
Fe aeth Cymru yn eu blaenau i ennill y Gamp Lawn, gan adael dwy gais yn unig drwy eu hamddiffyn.
Bydd cytundeb yr hyfforddwr amddiffyn yn dod i ben ar ôl Cwpan y Byd ym mis Hydref.