Aaron Ramsey
Mae capten newydd Cymru, Aaron Ramsey, wedi dweud heddiw bod cael arwain ei wlad yn anrhydedd mawr.
Fe fydd y chwaraewr canol cae 20 oed yn arwain Cymru yn erbyn Lloegr yfory, er mai dim ond 11 cap sydd ganddo dros ei wlad.
Dywedodd Ramsey ei fod wrth ei fodd ei fod wedi ei benodi’n gapten ac yn gobeithio y gallai arwain gweddill y tîm drwy esiampl.
“Mae’n anrhydedd cael bod yn gapten ar yr oedran yma,” meddai. “Ers pan oeddwn i’n fachgen roeddwn i eisiau chwarae pêl-droed yn broffesiynol a bod yn gapten ar fy ngwlad.
“Mae’n anrhydedd arbennig i mi a fy nheulu. Mae fy mam a fy nhad wedi gweithio’n galed iawn er mwyn i mi gyrraedd lle’r ydw i heddiw, ac rydw i’n ddiolch iddyn nhw.
“Roedd cael bod yn gapten yn dipyn o syndod, ond yn un braf. Fe fydd yn achlysur arbennig cael arwain y tîm o flaen stadiwm lawn.”
Cafodd Ramsey ei enwi’n gapten ychydig dros flwyddyn ers i Ramsey dorri ei goes yn Stoke ym mis Chwefror y llynedd.
“Mae hyn yn dangos sut mae pethau’n gallu newid ym mhêl droed. Roedd torri fy nghoes yn gyfnod digalon iawn, ond dyma uchafbwynt fy ngyrfa hyd yn hyn.”
Er bod Lloegr yw’r ffefrynnau i ennill yfory, mae Ramsey yn ffyddiog y gallai Cymru eu maeddu nhw.