Gareth Bale
Mae gôl-geidwad Lloegr, Joe Hart, wedi dweud fod absenoldeb Gareth Bale newyddion da i dîm Fabio Capello.

Mae asgellwr Cymru wedi dychwelyd i Tottenham ar ôl methu a gwella o anaf i linyn y gar cyn y gêm am 3pm yfory.

Mae’n golygu y bydd rheolwr Cymru, Gary Speed, heb un o’i chwaraewyr mwyaf dylanwadol ar gyfer ei gêm gartref gyntaf wrth y llyw.

“Mae absenoldeb Bale yn newyddion da i ni. Fo ydi un o’n chwaraewyr gorau,” meddai Joe Hart.

“Does neb eisiau ei weld yn cael ei anafu ac rwy’n siŵr y bydd gan Gymru rywun i lenwi ei esgidiau. Ond maen nhw’n esgidiau mawr.”

Profiad cynt o Gymru

Chwaraeodd Joe Hart yn erbyn Cymru pan oedd yn gôl-geidwad yn nhîm dan 21 y Saeson dwy flynedd a hanner ‘nôl.

Fe aeth Lloegr yn eu blaenau i chwarae yn y Bencampwriaeth Ewropeaidd ar ôl curo Cymru wedi  dau gymal agos yn y gemau ail gyfle.

Dywedodd Joe Hart ei fod wedi dysgu o’r gemau rheini na ddylai gymryd buddugoliaeth yn erbyn y Cymry yn ganiataol.

“Roedd y gêm honno’n gwbl wahanol i’r gemau rhagbrofol eraill. Roedden ni wedi ennill pob gêm heb i unrhyw un sgorio gôl yn ein herbyn cyn i ni wynebu Cymru.

“Doedd Cymru ddim mor gryf â rhai o’r timau cynt.  Ond roedd y dorf ar eu hochr nhw yng Nghaerdydd ac roedden nhw’n awyddus i chwarae’n dda.”