Stade de France (Thomas Faivre-duboz CCA 2.0)
Mae hyfforddwr cynorthwyol Cymru, Rob Howley wedi annog y tîm rhyngwladol i fod yn “feiddgar a disgybledig” wrth iddyn nhw geisio curo Ffrainc nos Sadwrn.
Fe fydd rhaid i Gymru ennill i gael unrhyw obaith o gipio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, wrth i Loegr fynd am y Gamp Lawn yn Nulyn.
Ond hyd yn oed pe bai’r Saeson yn colli, mae eu gwahaniaeth pwyntiau’n debyg o fod yn ddigon i gipio’r teitl.
Fe fyddai’n rhaid i Gymru guro Ffrainc o tua 20 pwynt gan obeithio y byddai’r Gwyddelod yn gwneud yr un peth yn erbyn tîm Martin Johnson.
Er hynny, fe fyddai dod yn ail yn cael ei ystyried yn ganlyniad da o ystyried gêmau siomedig Cymru yn yr hydref.
Barn Robert Howley
Mae Howley – yr hyfforddwr ymosod – yn gwybod bod rhaid i Gymru fod ar eu gorau yn erbyn y Ffrancwyr.
“Mae’n rhaid i ni fod yn feiddgar a disgybledig ym Mharis,” meddai. “Mae’n gêm enfawr i’r ddwy ochr – o ran y bencampwriaeth i ni ac mae’n gyfle i Ffrainc daro’n ôl ar ôl colli yn erbyn yr Eidal.
“Mae Ffrainc yn gadael i chi chwarae ac fe fydd ardal y dacl yn allweddol. Mae’r cyfle yna i ni chwarae ein steil ni o rygbi ac fe fydd rhaid i ni gymryd ein cyfle”
“R’yn ni am gadw’r bêl yn ein dwylo ond mae’n rhaid i ni fod yn hyderus a gwneud y penderfyniadau cywir ar yr adeg gywir.
“R’yn ni wedi ennill tair yn olynol ac r’yn ni’n mynd yno i ennill. R’yn ni’n gwybod beth yw cryfderau Ffrainc ac fe fyddwn ni’n barod amdanyn nhw.”
Galw ar Shane i feddwl eto
Mae Rob Howley hefyd am i asgellwr Cymru, Shane Williams ailystyried ei benderfyniad i ymddeol o rygbi rhyngwladol ar ôl Cwpan y Byd.
Fydd e ddim ar gael yn erbyn Ffrainc nos Sadwrn oherwydd anaf i’w ben-glin, ond mae Howley’n credu bod yr asgellwr ar ei orau o hyd.
“Fe fyddwn ni’n colli creadigrwydd Shane ym Mharis. Mae ei allu i greu rhywbeth allan o ddim yn amhrisiadwy.
“Rwyf wedi bod yn siarad gyda Shane dros yr wythnosau diwethaf ac rwy’n gobeithio nad yw wedi chwarae ei gêm olaf yn y Chwe Gwlad. R’yn ni’n gobeithio y bydd yn newid ei feddwl.”