Stadiwm Swalec - cartref Morgannwg
Bedwar mis ar ôl ffrae fawr, mae dau arweinydd amlyca’ Clwb Criced Morgannwg wedi cytuno ar drefn reoli ar gyfer y dyfodol.
Mewn cyfarfod o bwyllgor y sir neithiwr, fe gafodd Paul Russell ei ailethol yn Gadeirydd gyda’i gyn-wrthwynebydd, Nigel Roberts, yn dod yn Ddarpar Gadeirydd.
Ym mis Rhagfyr roedd y ddau wedi ffraeo wrth i’r sir gael gwared ar ei phrif hyfforddwr, Matthew Maynard, ac wrth i’r Llywydd, Peter Walker, ymddiswyddo.
Ar un adeg, roedd Nigel Roberts wedi ymddiswyddo hefyd o swydd yr Is-gadeirydd ac wedi bygwth rhoi’r gorau i’w fuddsoddi helaeth yn y clwb.
Neithiwr, er hynny, roedd y ddau’n croesawu’r cydweithio newydd – fe fydd y trefniant yn rhoi cyfle i Nigel Roberts sicrhau dyfodol ei fusnes ei hun cyn ymgymryd â’r gadeiryddiaeth.
“Rwy’ wrth fy modd ac yn ei gyfri’n anrhydedd i gael fy mhenodi’n Ddarpar Gadeirydd,” meddai. “Mae yna nifer o sialensiau’n wynebu’r clwb yn ystod y misoedd nesa’. Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda Paul i sicrhau ateb llwyddiannus.”