Michael Chopra - colled fawr i Gaerdydd
Roedd yna newyddion drwg a newyddion da a newyddion drwg i Gaerdydd neithiwr wrth iddyn nhw glywed y bydd eu blaenwr, Michael Chopra, mas am weddill y tymor.

Ond fe fydd ei gyd-ymosodwr, Craig Bellamy, ar gael ar ôl i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ei gael yn ddieuog o gamymddwyn ar ôl gêm yn erbyn Reading ddechrau Chwefror.

Er bod y clwb hefyd wedi eu cael yn ddieuog o fethu â rheoli eu chwaraewyr ar y cae yn yr un gêm, roedden nhw eisoes wedi derbyn cyhuddiad o fethu â rheoli eu chwaraewyr wedyn.

Fe gafodd y clwb ddirwy o £5,000 am y digwyddiad yn y twnnel ar ôl y gêm. Roedd helynt wedi codi rhwng y ddau dîm ar ôl i un o chwaraewyr Reading gael ei anfon o’r cae am daro Chopra.

Anaf Chopra

Yn y gêm yn erbyn Barnsley ddydd Sul y cafodd y blaenwr ei anaf – ar ôl cael ei gario ar stretsher o’r cae ar ôl dim ond 25 munud.

Fe gadarnhaodd sgan ei fod wedi niweidio llinyn y gar yn ddrwg ac y bydd allan am rhwng deg a deuddeg wythnos.

Fe fydd hynny’n golygu colli naw gêm ola’r tymor a gêmau ail gyfle hefyd os bydd Caerdydd yn cadw’u lle ym mhedwar ucha’r Bencampwriaeth.