James Hook
Mae James Hook a Sam Warburton wedi cael eu henwi ar y rhestr fer ar gyfer chwaraewr gorau’r Chwe Gwlad. 

 Gyda newid i’r fformat dewis chwaraewyr eleni, mae pob chwaraewr sydd wedi cael eu henwi’n seren y gêm yn y pedair rownd gyntaf o gemau yn cael lle awtomatig ar y rhestr fer.

Chwaraewr amryddawn y Gweilch a blaenasgellwr y Gleision yw’r unig Gymry ar y rhestr 12 dyn sy’n cynnwys pedwar o chwaraewyr Lloegr. 

 Mae’r rhain yn cynnwys yr asgellwr  Chris Ashton, y maswr Toby Flood, y blaenasgellwr James Haskell a’r clo Tom Palmer. 

 Mae’r blaenasgellwr Sean O’Brien a’r maswr Ronan O’Gara o dîm Iwerddon wedi’u cynnwys ar y rhestr fer ynghyd a chapten Ffrainc Thierry Dusautoir a’r cefnwr Maxime Medard. 

 Mae gan yr Eidal dau gynrychiolydd ar y rhestr, sef y mewnwr Fabio Semenzato a’r cefnwr Andrea Masi. 

 Yr Alban yw’r unig dîm yn y gystadleuaeth sydd heb yr un chwaraewr ar y rhestr ar gyfer chwaraewr y bencampwriaeth. 

 Fe fydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan gefnogwyr sy’n gallu bwrw eu pleidlais ar wefan swyddogol y Chwe Gwlad- www.rbs6nations.com tan 20 Mawrth.