Adam Jones - yn falch o fod yn y garfan
Mae prop Cymru, Adam Jones, wedi dweud ei fod yn barod i wynebu Ffrainc er gwaetha’r ffaith nad yw ond wedi chwarae 20 munud o rygbi ers canol mis Ionawr.
Fe ymunodd Llew gyda’r garfan ryngwladol ar gyfer gêm olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl absenoldeb o saith wythnos yn dilyn anaf i’w benelin.
Fe gafodd ei alw mewn i garfan Cymru ar ôl i brop arall y Gweilch, Craig Mitchell ddatgymalu ei ysgwydd yn erbyn Iwerddon dros y penwythnos.
Fe fydd rhaid i hyfforddwr Cymru, Warren Gatland benderfynu a yw’n mynd i gymryd y risg o gynnwys Jones yn y tîm neu symud Paul James i safle’r pen tynn gyda John Yapp yn brop pen rhydd.
“Dw i ond wedi chwarae 20 munud yn y ddau fis ddiwethaf a dw i ddim yn disgwyl gwyrthiau. Ond os byddai’n cael fy newis, fe fyddai’n canolbwyntio ar chwarae a pheidio poeni,” meddai Adam Jones.
“Rwy’n ffyddiog yn fy ngallu a lle rwyf wedi cyrraedd yn gorfforol. Rwy’n teimlo’n gyfforddus.
“Mae’r chwaraewyr wedi gwneud yn dda iawn dros y tair gêm diwethafw ac mae wedi bod yn siomedig i beidio bod yn rhan ohono.
“Mae pawb yn edrych ymlaen i Paris. Mae Ffrainc yn fath o dîm sy’n gallu fod yn wych pan maen nhw’n dewis ac fe fyddan nhw am brofi pawb yn anghywir ar ôl colli yn erbyn yr Eidal.”