Mae’r wraig fusnes Stephanie Booth wedi ail ymuno yn y ras i brynu Wrecsam ar ôl tynnu’n ôl wythnos diwethaf.
Fe ddaw hyn ar ôl i un o gyn-chwaraewyr y clwb, Ashley Ward, dynnu’n ôl o drafodaethau i brynu Wrecsam.
Yn dilyn hyn neithiwr fe gafodd datganiad ei ryddhau ar y cyd rhwng Stephanie Booth ac Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam.
“Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam a Stephanie Booth yn gallu cadarnhau eu bod nhw’n cydweithio yn yr ymgais i wneud cynnig ar y cyd am Wrecsam, y Cae Ras a Colliers Park,” meddai’r datganiad.
“Mae’r ddau grŵp yn annog y perchnogion presennol i gadw at eu hymrwymiad o werthu i “gonsortiwm gyda chyfranogiad cefnogwyr” ac nid gwastraffu’r cyfle yma trwy werthu i grŵp arall sydd ddim yn cefnogi’r un syniad.”
Mae’r ymddiriedolaeth a’r fenyw fusnes lleol yn credu y gallai gwerthiant y clwb cael ei gwblhau o fewn chwe wythnos.
Ond mae dyn busnes arall, Stephen Cleeve wedi amlinellu ei gynlluniau i brynu’r Dreigiau ar wefan cefnogwyr y clwb, Red Passion.
Fe ddywedodd na fyddai ond yn gwneud cynnig pe bai’n cael cefnogaeth mwyafrif y cefnogwyr.
Mae hefyd wedi dweud os fydd ei gynnig yn cael ei groesawu, fe fydd angen i grwpiau’r consortiwm eraill dynnu allan o’r ras i brynu’r clwb a chefnogi ei gynnig ef.