Adam Jones
Mae prop y Llewod, Adam Jones wedi cael ei ychwanegu at garfan Cymru ar ôl i brop y Gweilch, Craig Mitchell cael ei anafu. 

 Dyw Jones ond wedi chwarae 20 munud o rygbi ar ôl absenoldeb o saith wythnos yn dilyn anaf i’w benelin. 

 Fe fydd Mitchell yn colli rhwng 12 ac 16 wythnos ar ôl datgymalu ei ysgwydd yn chwarae i Gymru yn erbyn Iwerddon dros y penwythnos. 

 Roedd Mitchell wedi creu argraff yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wrth iddo lanw’r bwlch yn absenoldeb Adam Jones. 

 “Mae Craig wedi cael llawdriniaeth ar ôl datgymalu ei ysgwydd dde.  Fe aeth y llawdriniaeth yn dda ac fe ddylai dychwelyd i chwarae rhwng 12 ac 16 wythnos,” meddai rheolwr perfformiad meddygol Undeb Rygbi Cymru, Prav Mathema. 

 Mae Adam Jones ond wedi dod oddi ar y fainc i’r Gweilch yn erbyn Glasgow ers dychwelyd o’i anaf. 

 Ond mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi dangos ffydd yn y prop dylanwadol ac fe fydd yn ymuno gyda’r garfan ryngwladol yfory. 

 Mae Gatland hefyd wedi ychwanegu asgellwr y Scarlets, George North i’r garfan ar gyfer gêm olaf y Bencampwriaeth. 

 Fe fydd hyfforddwr Cymru yn enwi ei dîm i wynebu Ffrainc ym Mharis dydd Mercher.