Leigh Halfpenny, asgellwr Cymru
Mae asgellwr Cymru, Leigh Halfpenny, yn disgwyl her anodd yn erbyn Ffrainc y penwythnos nesaf wrth i dîm Warren Gatland geisio gorffen y Chwe Gwlad ar nodyn uchel. 

 Fe fydd Cymru’n teithio i Baris yn hyderus ar ôl curo Iwerddon am eu trydedd buddugoliaeth yn olynol yn y Chwe Gwlad. 

 Ond fe fydd Cymru’n wynebu tîm Ffrengig sy’n wynebu colli tair gêm yn y Chwe Gwlad am y tro cyntaf ers 2001 ar ôl iddynt eisoes golli yn erbyn Lloegr a’r Eidal. 

 “Fe fyddwn i’n credu eu bod nhw’n mynd i fod ar dân yn ein herbyn,” meddai Leigh Halfpenny.   

 “Ond ry’n ni wedi curo’r Eidal yn Rhufain – rhywbeth mae Ffrainc wedi methu â’i wneud.  Felly, fe allwn ni gymryd hyder o hynny.

   “Mae’n gêm enfawr i ni.  Ry’n ni wedi rhoi ein hunain mewn sefyllfa ddymunol ac ry’n ni’n gwybod y gallwn ni wella eto.

 “Mae’n rhaid i ni ddangos yr un agwedd ag yn y gêm yn erbyn Iwerddon.  Fe fydd ein hamddiffyn yn bwysig iawn.  Ry’n ni’n gwybod sut mae Ffrainc yn chwarae adref ac mae’n rhaid i ni fod yn llawn mor gorfforol â hwy. 

“Mae hyder y tîm yn uchel nawr ac fe allwn ni fynd allan a pherfformio yn erbyn Ffrainc.  Ond mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein perfformiad ein hunain.”