Dave Jones, rheolwr Caerdydd
Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones, wedi dweud bod rhaid i’w dîm beidio â cholli hyder ar ôl eu gêm gyfartal yn erbyn Barnsley ddoe.
Roedd yr Adar Glas ar y blaen ddwywaith yn ystod y gêm ond fe wnaethon nhw adael eu gwrthwynebwyr i unioni’r sgôr. Fe gollodd Caerdydd y cyfle i godi i’r ail safle yn y Bencampwriaeth ar ôl methu dal ‘mlaen am y pwyntiau llawn.
Mae Dave Jones yn credu bydd rhaid i bethau wella wrth i ddiwedd y tymor arferol agosáu.
“Ry’n ni gwybod ein bod ni heb chwarae’n dda. Fe ddylen ni fod wedi ennill ar ôl mynd ar y blaen ddwywaith,” meddai Dave Jones.
“Roedden ni’n edrych yn nerfus – roedd y lle cyfan yn nerfus. Ond er hynny roedden ni mewn safle i ennill.
“Mae pawb yn ceisio gwneud eu gorau ond dyw hynny ddim yn ddigon bob tro yn ôl lefel disgwyliadau’r clwb.
“Fe fydd nerfau wastad yn ceisio rheoli, ond mae’n rhaid i ni ddod dros y nerfau yn gyflym.”
Mae Dave Jones yn credu bod dal digon o amser i adfer y sefyllfa yn dilyn eu rhediad siomedig diweddaraf.
“Mae llawer o bêl droed i chwarae eto ac mae’r cyfle’n dal yna i ni. Ond ry’n ni’n ymwybodol bod rhaid i ni chwarae’n well.
“Yn y tair gêm olaf dy’n ni ond wedi ennill pwynt, sydd ddim digon da. Ond mae yna sawl tîm arall yn dweud yr un peth.”