Aaron Ramsey - falch o fod yn ôl
Mae Aaron Ramsey wedi dweud ei fod yn hapus o gael dychwelyd i chwarae i dîm cyntaf Arsenal am y tro cyntaf ers torri ei goes dros flwyddyn yn ôl.
Fe ddaeth chwaraewr canol cae Cymru oddi ar y fainc wrth i’r Gunners colli 2-0 yn erbyn Man Utd yn rownd wyth olaf Cwpan yr FA dros y penwythnos.
Dyma oedd gêm gyntaf Ramsey i Arsenal ers dioddef yr anaf difrifol yn dilyn tacl gan amddiffynwr Stoke, Ryan Shawcross fis Chwefror llynedd.
Fe dreuliodd Aaron Ramsey gyfnodau ar fenthyg gyda Nottingham Forest a Chaerdydd dros y misoedd diwethaf wrth iddo geisio cryfhau ei ffitrwydd.
Ond mae Ramsey yn falch i wisgo crys Arsenal unwaith eto wrth iddo gymryd ei gamau cyntaf yn ôl i chwarae ar y lefel uchaf unwaith eto.
“Roedd yn wych cael gwisgo crys Arsenal unwaith eto a chwarae rhan o’r gêm,” meddai Aaron Ramsey.
“Mae wedi bod yn amser hir ers i mi chwarae dros Arsenal. Roedd yn ganlyniad siomedig, ond o safbwynt personol roedd yn neis fod yn ôl.
“Mae’r cefnogwyr wedi bod yn wych trwy gydol yr amser. Cefais bloedd fawr wrth ddod ‘mlaen ac rwy’n gwerthfawrogi’r cefnogaeth.
“Dw i ddim yn meddwl am yr anaf wrth chwarae. Dw i ond yn canolbwyntio ar yr hyn sydd angen i mi wneud. Dw i bron â bod yn ôl i ble roedden ni cyn yr anaf ac rwy’n gobeithio parhau i chwarae dros Arsenal nawr.”