Dave Jones
Caerdydd 2 – 2 Barnsley

Roedd dwy gôl gan yr eilydd Andy Gray yn ddigon i atal Caerdydd rhag esgyn i’r ail safle yn y Bencampwriaeth.

Roedd Caerdydd wedi mynd ar y blaen drwy ergyd wefreiddiol gan Peter Whittingham ar ôl 21 munud, ond tarodd Barnsley yn ôl drwy Andy Gray wyth munud yn ddiweddarach.

Sgoriodd Dekel Keinan ei gôl gyntaf dros Gaerdydd wyth munud cyn y chwiban olaf, ac roedd Caerdydd yn meddwl eu bod nhw wedi cipio buddugoliaeth.

Ond sgoriodd Andy Gray gôl arall â pheniad munud olaf er mwyn cadw Caerdydd yn y pedwerydd safle.

Gwastraffodd Craig Bellamy a Jay Bothroyd gyfleoedd da cyn yr hanner, ac roedd Bothroyd yn gandryll na gafodd gic gosb ar ôl tacl flêr gan Jason Shackell.

Fe fydd hyfforddwr Caerdydd, Dave Jones, yn teimlo ei fod wedi methu cyfle ar ôl i Abertawe golli yn erbyn Derby ddoe.

Maen nhw yn y pedwerydd safle ar 62 pwynt, y tu ôl i Norwich ac Abertawe  sydd ar 63. Mae QPR ymhellach ar y blaen ar 73 pwynt.