Yr Eidal v Ffrainc
Dywedodd hyfforddwr Ffrainc, Marc Lievremont, y byddai’n crogi ei hun “bai gen i raff” ar ol gweld ei dim yn colli 22-21 yn erbyn yr Eidal.

“Does gen i ddim tîm allai ennill Cwpan y Byd,” meddai’ hyfforddwr, gan ychwanegu ei fod o wedi mynd “i lawr heol hosan”.

“Dydyn ni ddim i weld yn gallu chwarae gyda’n gilydd. Mae rhai o’r chwaraewyr yn edrych fel pe baen nhw ar goll ar y cae.

“Doeddwn i ddim yn gallu credu’r tactegau oedd yn cael eu defnyddio ar y cae. Doeddwn i ddim yn gallu adnabod unrhyw beth oedden ni wedi gweithio arno.

“Ydych chi wir yn credu fy mod i wedi gofyn iddyn nhw chwarae fel yna yn erbyn yr Eidal? Roedd gen i gywilydd.

“Dw i ddim dan yr argraff ein bod ni wedi gofyn iddyn nhw gerdded ar y lleuad. Dw i ddim yn gofyn am bethau cymhleth.

“Geuddrych oedd y gêm yma. Dw i ddim eisiau osgoi’r bai ond roedden nhw’n dyfeisio pethau ar y cae.

“Roedd yna ddiffyg dewrder. Maen nhw’n fois neis ond wedi eu melltithio gan lwfrdra.

“Dydyn nhw ddim hyd yn oed yn gallu cydnabod eu camgymeriadau eu hunain. Efallai fod hynny’n duedd ymysg y genhedlaeth newydd.”

Fe fydd Ffrainc yn wynebu Cymru yn y Stade de France ddydd Sadwrn.