Rio Ferdinand ym Mhrestatyn (Llun Haven Holidays/PA Wire)
Mae’n annhebygol y bydd capten Lloegr, Rio Ferdinand, yn ddigon iach i chwarae yn erbyn Cymru ar 26 Mawrth, yn ôl hyfforddwr Manchester United, Alex Ferguson.

Mae Rio Ferdinand wedi anafu ei goes, ac mae Steven Gerrard yn dioddef o broblem â’i werddyr sy’n debygol o fod angen llawdriniaeth.

Mae yna sïon y bydd hyfforddwr Lloegr, Fabio Capello, yn cynnig y gapteniaeth i’r cyn-gapten John Terry.

Roedd Capello wedi penderfynu peidio â chadw John Terry yn gapten ar ôl honiadau yn y wasg ei fod wedi cael perthynas â chariad chwaraewr rhyngwladol arall.

“Mae Rio wedi bod yn gwneud dipyn bach o redeg. Fe fydd o’n holliach ar gyfer y gemau ar ôl y gemau rhyngwladol,” meddai Alex Ferguson.

“Dw i ddim yn meddwl y bydd o’n cael cyfle i chwarae cyn hynny. Dw i ddim yn credu y dylai Lloegr wneud defnydd ohono. Dydi o heb chwarae i ni ers mis Ionawr.”