Craig Mitchell
Mae disgwyl i brop Cymru, Craig Mitchell, fethu y gêm yn erbyn Ffrainc ddydd Sadwrn nesaf ar ôl anafu ei ysgwydd yn ystod y fuddugoliaeth 19-13 dros Iwerddon.
Dywedodd Warren Gatland ar ôl y gêm ei fod yn credu fod y prop wedi datgymalu ei ysgwydd.
Mae disgwyl y bydd Adam Jones, sydd wedi chwarae un gêm yn unig i’r Gweilch ers treulio saith wythnos wedi ei anafu, yn cael ei alw yn ôl yn gynt na’r disgwyl.
“Mae Craig Mitchell wedi gwneud yn dda iawn yn ystod yr ymgyrch a wedi llenwi bwlch Adam Jones,” meddai Warren Gatland.
“Dw i ddim yn credu ei fod wedi cael digon o glod am ei waith caled ar y cae.”
Gadawodd Craig Mitchell y cae ar ôl 11 munud, gan wneud lle i John Yapp. Cafodd ei anafu wrth daclo’r prop Cian Healy.